top of page
Untitled

Cymell Un i Un

Rwy'n Gymhellwr Arweinyddiaeth ffyddlon ac ymroddedig sydd wedi f'ymrwymo i ddarparu’r safon uchaf o gymell perfformiad er mwyn hwyluso newid gwirioneddol ym mywydau pobl.  Credaf yn gryf, yn y byd ansicr hwn sy’n newid yn barhaus, mai arweinyddiaeth effeithiol sy’n seiliedig ar werthoedd yw’r allwedd absoliwt i lwyddiant personol a phroffesiynol. Drwy weithio mewn partneriaeth i ddatblygu eich sgiliau arwain a'ch hunanymwybyddiaeth er mwyn cyflawni eich potensial yn ogystal â photensial y tîm o bobl yr ydych yn eu harwain, a thrwy hynny greu amgylchedd gwaith o ansawdd gwell i bawb.

 

Trwy ddod â'r cydbwysedd cywir o her uchel yn ogystal â chwrdd ag anghenion dynol i'r berthynas gymell, mae'n caniatáu i chi ddod yn llawer mwy effeithiol a bodlon yn y gwaith a phob rhan o'ch bywyd. Drwy adnabod anawsterau fel cyfleoedd cudd, byddwch mewn sefyllfa well i wynebu ac ymdrin â'r heriau o fewn rôl arweinydd.

 

 Rwy’n gredwr dwfn yng ngwerthoedd person fel y prif yrrwr ar gyfer llwyddiant. Byddaf yn gweithio gyda chi i gydnabod eich gwerthoedd, gan eu hanrhydeddu i ganiatáu ichi fod yn driw i chi'ch hun yn y penderfyniadau a wnewch. Yn ogystal â chynyddu eich perfformiad eich hun, bydd defnyddio eich gwerthoedd i ysgogi amgylchedd gwaith cadarnhaol i eraill hefyd yn ysgogi diwylliant perfformiad uwch ar gyfer eich tîm.

 

 

CYSYLLTWCH A MI NAWR i drefnu Sesiwn Ddarganfod er mwyn dylunio’r bartneriaeth gymell, egluro disgwyliadau a sefydlu eich nodau ac amcanion. Gallaf ddarparu rhaglen wyneb yn wyneb neu gyfarfodydd rhithwir fel a benderfynnwn yn y Sesiwn Ddarganfod. Bydd y rhaglenni'n rhedeg ar gylchred o 6 sesiwn gyda chyfarfod adolygu i benderfynu ar y camau priodol nesaf. Ar ddiwedd pob sesiwn byddaf yn rhoi crynodeb i chi o'r pwyntiau allweddol a wnaed gan gynnwys her ôl sesiwn.  Byddaf hefyd yn gofyn am eich adborth er mwyn sicrhau fy mod yn parhau i gwrdd a'ch anghenion yn llawn.

Cysylltwch a mi

©2023 by My Site. Proudly created with Wix.com

bottom of page