Bethan Cartwright
​
Cymhellwr Arweinyddiaeth a Pherfformiad

Cymel Timau Arwain
Rydym yn byw mewn cyfnod cythryblus ac mae'r dyfodol yn debygol o ddal mwy o her nag y gallwn ddychmygu. Bydd yr heriau hyn yn mynnu ein bod yn gweithio gyda'n gilydd - bydd tîm effeithiol bob amser yn perfformio'n well na chyfanswm ei rannau.
​
Bydd yr heriau hyn yn cymryd lefelau newydd o empathi, meddwl systemig, cydweithredu a gwaith tîm. Mae hyn yn golygu bod arweinyddiaeth y tu hwnt i gwmpas unrhyw unigolyn ac mae angen arweinyddiaeth ar y cyd yn fwy effeithiol ynghyd a thimau arweinyddiaeth sy'n perfformio'n dda.
​
Fy rôl fel Cymhellwraig Tîm yw helpu'ch tîm i weithio gyda'i gilydd mewn perthynas ddynamig â'ch ecosystem ehangach, gan eich helpu i drawsnewid eich sefydliadau fel eich bod yn addas ar gyfer y dyfodol.
Fel eich Cymhellwraig Tim byddaf yn eich cefnogi, fel unigolion ac fel tîm, i gynllunio a gweithredu newid a gwelliant yn effeithiol ar draws eich sefydliad.
​
Byddaf yn eich helpu i:
- adnabod eich hunaniaeth a'ch pwrpas fel tîm
- nodi sut y gallech gydweithio'n fwy effeithiol ac effeithlon fel tîm er mwyn sicrhau'r perfformiad gorau posibl
• egluro beth sydd angen i chi ei gyflawni, pam a sut i fynd ati i wneud hynny'n effeithiol
- fod yn fwy ymwybodol o sut rydych chi'n gwneud penderfyniadau a sut rydych chi'n cyfathrebu hyn yn effeithiol i weddill y sefydliad gan arwain at broses gynaliadwy o gydweithio effeithiol ar bob lefel.
​
Does dim teimlad gwell na hynny o fod yn aelod o dîm cryf lle mae pob un 'gwylio cefn y llal'! Yn y pen draw, daw'r tîm yn ofod diogel seicolegol, y cynhwysydd emosiynol a'r ffynhonnell egni a fydd yn cefnogi ac yn codi cymhelliant a lefelau egni aelodau'r tîm. Felly nid yn unig y mae'n caniatáu inni wneud y mwyaf o'n perfformiad ond gall hefyd arwain at well morâl, gwell lles, llai o absenoldebau, cadw swyddi a mwy o allu a chapasiti i wella ymhellach.
​
Bydd tîm sy'n perfformio'n dda ac sy'n ymrwymedig i dwf a datblygiad personol ei gilydd yn dod yn fodel rôl i'r holl randdeiliaid. Pan fydd aelodau unigol yn cynrychioli'r tîm mewn ffordd sy'n ymgysylltu'n effeithiol â'r sefydliad cyfan, yna mae'n bosibl cynyddu perfformiad drwy eraill. Bydd tîm sy'n perfformio'n dda yn creu budd i bawb.
