top of page
Untitled

 

Goruchwyliaeth

 

Ystyriaf fy hun yn oruchwylwraig ffyddlon ac ymroddedig sydd wedi f'ymrwymo i ddarparu'r safon uchaf o oruchwyliaeth broffesiynol er mwyn eich helpu i feithrin eich hunaniaeth cymell unigryw gan eich galluogi i ddyfnhau ac ymestyn eich gallu i herio a chefnogi'ch cleientiaid yn effeithiol.

 

Yn y byd cymhleth, rhyng-gysylltiedig sy’n newid yn gyflym sydd ohoni heddiw, mae’r gofynion a roddir ar ein harweinwyr a’n sefydliadau wedi cynyddu’n esbonyddol. Mae angen i arddulliau arwain ymateb i ddeinameg sefydliadau sy’n gweithredu o fewn economi gystadleuol a byd-eang, sy’n cael ei gyrru gan wybodaeth, deall cymhlethdod y cyd-destun yn ogystal â’r perthnasau rhwng yr holl unigolion o fewn iddo.

 

Am y rheswm hwn, mae'n rhaid i gymhellwyr arweinyddiaeth a pherfformiad fod yn addas at y diben wrth gefnogi arweinwyr i fodloni'r gofynion hyn. Mae'n rhaid i chithau hefyd gyflawni’r ‘ffit cywir’ rhwng heriau cymhleth cymdeithas gyfoes a’ch gallu personol a chyfunol eich hun i ddeall, ystyried yn feirniadol ac integreiddio safbwyntiau lluosog ar faterion cleientiaid a’r broses gymell. Mae hyn yn gofyn am ymrwymiad llawn â datblygiad proffesiynol parhaus a hunanfyfyrio, a dim ond trwy oruchwyliaeth cymell effeithiol y gellir ei wella.

 

Os ydych chi'n gymhellwr arweinyddiaeth, datblygiad neu berfformiad, gallaf ddarparu goruchwyliaeth cymell effeithiol a fydd yn rhoi cyfle i chi gamu'n ôl o'ch gwaith a chymryd golwg ehangach, sy'n hanfodol i'ch effeithiolrwydd parhaus a'ch trawsnewidiad wrth ddiwallu anghenion eich cleientiaid.

 

 Byddwn yn darparu man diogel a chefnogol i chi allu myfyrio, cael mewnwelediad, ail-egnïo a gwella'ch ymarfer cymell yn barhaus. Drwy eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth gynyddol ohonoch chi'ch hun, eich cleientiaid a'r systemau y maent yn gweithredu ynddynt byddwch yn gallu cael mwy o wrthrychedd ac ehangder persbectif ar eich gwaith cymell, yn enwedig mewn sefyllfaoedd cymhleth neu anodd neu lle y gallai cymell sbarduno'ch 'mannau poeth' eich hun. Bydd hefyd yn caniatáu ichi fod yn sicr eich bod yn defnyddio arfer gorau ac yn cadw at foeseg a ffiniau'r diwydiant cymell. Byddwch yn cael cefnogaeth ar ffurf syniadau, gwybodaeth ac awgrymiadau yn ogystal â sicrwydd.

 

CYSYLLTWCH A MI NAWR i drefnu Sesiwn Ddarganfod am ddim er mwyn dylunio ein partneriaeth oruchwylio, egluro disgwyliadau a sefydlu eich nodau ac amcanion. Gallaf ddarparu rhaglen o gyfarfodydd wyneb yn wyneb neu rithwir fel y penderfynwyd yn y Sesiwn Ddarganfod. Bydd y rhaglenni'n rhedeg ar gylchred o 6 sesiwn gyda chyfarfod adolygu i benderfynu ar y camau priodol nesaf. Ar ddiwedd pob sesiwn byddaf yn rhoi crynodeb i chi o'r pwyntiau allweddol o'r hyn a ddysgwyd, gan gynnwys sialens ôl-sesiwn. Byddaf hefyd yn gofyn ichi am eich adborth er mwyn sicrhau fy mod yn parhau i ddiwallu eich anghenion ac felly anghenion eich cleientiaid.

 

Cysylltwch a mi

©2023 by My Site. Proudly created with Wix.com

bottom of page