Bethan Cartwright
​
Cymhellwr Arweinyddiaeth a Pherfformiad


Helo, Bethan Cartwright ydw i a gyda'n gilydd, gyda'r cydbwysedd cywir o her a chefnogaeth gallaf eich helpu i fod y fersiwn gorau ohonoch chi.
Os ydych chi'n arwain tim o bobl, yn fawr neu'n fach, o fewn y sectorau cyhoeddus neu breifat, gallaf gerdded gyda chi wrth eich ochr ar eich siwrnai tuag at lwyddiant a hapusrwydd.
Trwy adlewyrchiad dwfn a chwestiynau heriol gallaf eich helpu i wneud synnwyr o'ch holl sefyllfaoedd yn ymwneud a gwaith, dod o hyd i ddatrysiadau, gwneud penderfyniadau a chynllunio gweithredu fydd yn arwain at gyflawni eich nodau ac amcanion. Byddaf yn cefnogi'ch datblygiad fel arweinydd pobl, eich helpu i gael y gorau o'ch tim, rheoli eich straen a'ch pryderon a chaniatau ar gyfer eich twf personol parhaus.
Amdanaf i
Rwy'n Gymhellwraig Weithredol a Goruchwylwraig i Gymhellwyr achrededig Lefel 7 ac yn Gymhellwraig Tim achrededig ar Lefel 5. Rwyf hefyd yn Gymhellwr Achrededig yr EMCC ar lefel Ymarferydd Uwch, yn Oruchwylydd i Gymhellwyr Achrededig yr EMCC ac yn Gymhellwr Timau Achrededig yr EMCC. Rwyf wedi gweithio gydag unigolion a thimau i ddod yn arweinwyr mwy effeithiol er mwyn sicrhau llwyddiant eu sefydliadau.
Mae f'ymrwymiad i gwrdd ag anghenion fy nghleientiaid drwy ddarparu cymell o'r radd flaenaf, hyfforddiant a goruchwyliaeth ynghyd a chefnogaeth diflino yn golygu y daw arweinwyr yn ol atai dro ar ol tro.
Gyda thros 25 o flynyddoedd o brofiad arweinyddol o fewn y sector addysg, yn cynnwys Pennaeth ar ysgol gyfun 11-18 oed fawr, rwy'n llawn angerdd tuag at ddysgu a hwyluso tyfiant mewn erail gan ganiatau iddynt for y fersiwn gorau ohonynt eu hunain. Fel bodau dynol rydym wedi ein rhaglennu i fod eisiau ac angen dysgu. Credaf na ellir cynnal perfformiad uchel heb ddysgu parhaus ac fel y byddaf yn eich cymell i gyrraedd uchelfannau newydd bydd natur y broses yn ymestyn eich mwynhad a hapusrwydd yn ogystal.
Fel crediniwr cadarn mewn dysgu gydol oes rwyf wedi fy nghyrru i gyflawni fy ngorau personol fy hun yn ogystal a datblygiad a llwyddiant eraill. Anelaf at beidio byth a stopio dysgu a datblygu fel cymhellwraig a goruchwylwraig. Rwy'n meddu ar sgiliau rhyngbersonol ardderchog a gallaf ffurfio perthnasau effeithiol gydag arweinwyr ar bob lefel. Gallaf hefyd gyfathrebu a darparu sesiynau yn rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Dewch i gysylltiad a mi heddiw i ddysgu sut y gallaf eich helpu chi.

Fy Ngwasanaethau
Cymell Perfformiad Un i Un:
Os oes gennych gyfrifoldeb am arwain tim o bobl, gallaf weithio mewn partneriaeth gyda chi i fod y fersiwn gorau ohonoch eich hun. Bydd hyn yn caniatau i chi uchafu eich potensial fel arweinydd tra ar yr un pryd sicrhau eich llesiant optimaidd.
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar 'Cymell Un i Un' yn y fwydlen uchod.

Cymell Timau Arwain:
Fel un o fy ngwasanaethau mwyaf poblogaidd gallaf ddarparu cymell ar gyfer timau arwain er mwyn caniatau i chi a'ch tim i ddatblygu, i dyfu ac i gyflawni eich potensial optimaidd.
Gallaf eich cynorthwyo i gyrraedd eich nodau ac amcanion tim drwy ddatblygu diwylliant sydd yn meithrin ymroddiad, perthnasoedd iach a chydweithio effeithiol fydd yn caniatau i chi ymestyn y tu hwnt i'ch gallu presennol gan gyflawni eich canlyniadau dymunol.

Goruchwyliaeth:
1. Goruchwyliaeth ar gyfer Cymhellwyr
Os ydych chi'n ymarferydd cymell gallaf ddarparu goruchwyliaeth fydd yn eich cefnogi yn eich datblygiad parhaus a'ch tyfiant er mwyn i chi allu cynnig cymell effeithiol ac o'r radd flaenaf i'ch clientiaid.
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar 'Goruwchyliaeth ar gyfer Cymhellwyr' ar y fwydlen uchod.
2. Goruchwyliaeth Proffesiynol
Fel arweinydd profiadol mewn addysg a goruchwyliwr cymwys, gallaf ddarparu goruchwyliaeth broffesiynol i arweinwyr eraill mewn addysg. Bydd hyn yn cefnogi eich datblygiad a'ch twf parhaus er mwyn darparu arweinyddiaeth o ansawdd uchel ac effeithiol yn eich ysgol.
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar 'Goruwchyliaeth Proffesiynol' ar y fwydlen uchod.
